Micah 5

1Ar hyn o bryd rwyt ti'n torri dy hun â chyllyll a
ti ddinas dan ymosodiad!
Mae'r gelyn yn gwarchae
5:1 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu'r ddinas a'i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan.
arnon ni!
Maen nhw'n taro arweinydd Israel
ar y foch gyda theyrnwialen.

Y brenin sydd i ddod

2Ond wedyn ti, Bethlehem Effrata, c
rwyt ti'n un o'r pentrefi
lleiaf pwysig yn Jwda.
Ond ohonot ti y daw un
fydd yn teyrnasu yn Israel –
Un sydd â'i wreiddiau yn mynd yn ôl
i'r dechrau yn y gorffennol pell.
3Felly bydd yr Arglwydd
yn rhoi pobl Israel i'r gelyn,
hyd nes bydd yr un sy'n cael y babi
wedi geni'r plentyn.
Wedyn bydd gweddill ei deulu yn dod adre
at blant Israel.
4Bydd yn codi i arwain ei bobl
fel bugail yn gofalu am ei braidd.
Bydd yn gwneud hyn yn nerth yr Arglwydd
a gydag awdurdod yr Arglwydd ei Dduw.
Byddan nhw yno i aros,
achos bydd e'n cael ei anrhydeddu
gan bawb i ben draw'r byd.

Yr Arglwydd yn achub ei bobl

5Bydd e'n dod â heddwch i ni.
Os bydd Asyria'n ymosod ar ein tir
ac yn ceisio mynd i mewn i'n plastai,
bydd digon o arweinwyr i'w rhwystro!
6Byddan nhw'n rheoli Asyria gyda'r cleddyf;
gwlad Nimrod
5:6 gwlad Nimrod enw arall ar Asyria.
gyda llafnau parod!
Bydd ein brenin yn ein hachub
pan fydd Asyria'n ymosod ar ein gwlad,
ac yn ceisio croesi ein ffiniau.

Yr Arglwydd yn cosbi ei bobl

7Bydd pobl Jacob
5:7,8 Jacob Yma mae ‛Jacob‛ yn cyfeirio at Jwda, teyrnas y de.
sydd ar ôl
ar wasgar yng nghanol y bobloedd,
fel y gwlith mae'r Arglwydd yn ei anfon,
neu gawodydd o law ar laswellt –
sydd ddim yn dibynnu ar bobl
na disgwyl am eu caniatâd cyn dod.
8Bydd pobl Jacob sydd ar ôl
yn byw yn y gwledydd,
ar wasgar yng nghanol y bobloedd.
Byddan nhw fel llew yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion,
neu lew ifanc yng nghanol praidd o ddefaid –
yn rhydd i ladd a rhwygo
heb neb i'w stopio.
9Byddi'n codi dy law i daro'r rhai sy'n dy erbyn,
a dinistrio dy elynion i gyd!

Yr Arglwydd yn puro ei bobl

10“Bryd hynny,” meddai'r Arglwydd,
“bydda i'n cael gwared â'ch arfau i gyd –
y ceffylau a'r cerbydau rhyfel. f
11Bydda i'n dinistrio trefi'r wlad
ac yn bwrw i lawr y caerau amddiffynnol.
12Bydda i'n stopio eich dewino a'ch swynion,
a fydd neb ar ôl i ddweud ffortiwn.
13Bydda i'n dinistrio eich delwau cerfiedig
a'ch colofnau cysegredig.
Fyddwch chi byth eto yn plygu
i addoli gwaith eich dwylo eich hunain. g
14Bydda i'n diwreiddio polion y dduwies Ashera,
5:14 Ashera duwies ffrwythlondeb.

ac yn dinistrio eich eilun-dduwiau.
15Bydda i'n dial yn wyllt
ar y gwledydd sy'n gwrthod gwrando arna i.”
Copyright information for CYM